Archifau Ynys Môn
Os ydych eisiau dilyn hanes eich cartref neu ddilyn trywydd hanes eich teulu, bydd ein staff cyfeillgar a gwybodus yn eich arwain a'ch cynorthwyo drwy ein casgliadau o ddogfennau hanesyddol.
Mae amryw nad ydynt yn llwyr werthfawrogi maint a chyfoeth y deunydd sydd ar gael yn yr Archifdy. Mae llawer yn darganfod nad yw chwilota yn yr archifau yn weithgaredd sych academaidd ond yn waith hamdden llawn mwynhad a diddordeb.
Am fwy o wybodaeth ar y Gwasanaeth Archifau, ewch i wefan Cyngor Sir Ynys Môn.
Cyngor Sir Ynys Môn - archifau