Castell Biwmares - ‘Pwy ddywedodd fod Hanes yn ddiflas’?

Castell trawiadol Biwmares o'r awyr
I adeilad anorffenedig, mae Castell Biwmares wedi denu llawer iawn o sylw a chydnabyddiaeth haeddiannol.
Dyma’r castell olaf i gael ei adeiladu gan Edward 1af yn 1296. Y bwriad oedd adeiladu caer gadarn yn erbyn tywysogion Cymru ar ochr ddwyreiniol yr ynys, ac i warchod yr Afon Menai.
Bu i “Longshanks”, fel yr oedd Edward yn cael ei alw oherwydd ei daldra eithriadol, redeg allan o arian, gan fod ei arian yn cael ei ddefnyddio i raddau helaeth i geisio cadw’r Albanwyr yn ddistaw hefyd.
Fodd bynnag ni wnaeth hyn ei rwystro rhag comisiynu’r pensaer, y Prif Saer Maen James o St George ynghyd â 400 o chwarelwyr, 2000 o lafurwyr a 450 o seiri maen i ddechrau’r gwaith. Roedd hefyd yn cynnwys dadwreiddio pentref cyfan a’i breswylwyr yn Llanfaes, a’u symud i dref oedd newydd ei hadeiladu, ar ochr orllewinol yr ynys, o’r enw “Niwbwrch”.
I lawer, mae’r castell sydd wedi’i gynllunio’n gonsentrig gyda’r dyluniad gorau un. Roedd gan yr ymosodwyr a oedd yn bygwth bymtheg o rwystrau a phedwar mur amddiffyn i ymdopi â nhw. “Mae’n gastell eithriadol” meddai Mike Williams, ceidwad sy’n rhannu ei amser rhwng castell Biwmares a Chonwy. “Mae’n gwbl wahanol i Gonwy” meddai, “ac mae’n denu math gwahanol o ymwelydd. Ni ellwch ond rhyfeddu at y meddwl a chymhlethdod y tu ôl i’w ddyluniad. Mae Castell Biwmares yn lleoliad eithriadol”.
Mae’n ffurfio rhan o’r safle Treftadaeth y Byd, gan gymaint ei bwysigrwydd fel “castell wedi’i ddylunio’n berffaith”. I lawr yr arfordir, ar ochr arall yr Afon Menai, mae’r rhan arall – Castell Caernarfon. Petaech chi eisiau cychwyn dadl, nodwch eich ffefryn, Biwmares ynteu Caernarfon. Ymwelwch â’r ddau, ond peidiwch â cholli dyluniad anhygoel Biwmares, er ei fod yn anorffenedig.
Ychwanegwch at hynny olygfeydd o Eryri o ragfuriau’r castell, y carchar lleol hynafol sy’n dyddio’n ôl i 1614, a mordeithiau o amgylch Ynys Seiriol – Biwmares gyda’i bythynnod teras lliwgar, pensaernïaeth raglywiaeth, siopau te a galerïau – ac mae’n gyrchfan darlun cerdyn post.