Bryn Celli Ddu
Mae Bryn Celli Ddu yn dal i hudo archeolegwyr ac ieithyddion.
Tomen fawr ydy hi yn cynnwys bedd dramwyfa, ond ei dwy gladdfa sy’n hynod, un wedi ei hadeiladu ar ben y llall, sy’n awgrymu newid credo yn ystod y cyfnod Neolithig. Roedd y gladdfa gyntaf yn hengor, cylch cerrig canolig nas ceir yn aml yng Nghymru. Mae’r ail gladdfa, siambr, carnedd a bedd dramwyfa yn gorchuddio’r gyntaf yn gyfangwbl, ac mae’n debygol ei bod yn un o’r beddrodau megalithig olaf i gael ei hadeiladu ar Ynys Môn.
Mae gan Fryn Celli nifer o nodweddion anghyffredin - yn cynnwys carreg wedi ei haddurno â sbiral a phatrymau tu ôl siambr y beddrod. Mae’r garreg hon yn cael ei chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, ac mae atgynhyrchiad ohoni i’w gweld ym Mryn Celli.
Mae anghytundeb ynghylch yr enw. Dehonglir yr enw’n arferol fel ‘tomen yn y llwyn tywyll’ ond mae dehonglwyr eraill yn credu fod yr enw’n awgrymu gwrogaeth i’r Duwdod. Mae Bryn Celli yn dal i hudo, gydag un damcaniaeth yn awgrymu iddi gael ei chreu fel arsyllfa!