Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Celf

Kyffin Williams

Ysbrydoliaeth Ynys

Mae rhywbeth ynglŷn ag Ynys Môn sy’n ysbrydoli arlunwyr mawr. Efallai mai ansawdd y golau yw’r apêl neu’r morluniau sy’n newid yn gyson. Efallai mai’r ffermdai anghysbell, neu’r golygfeydd arbennig o fynyddoedd Eryri sy’n eu hysbrydoli.

Y llynedd dathlodd Oriel Ynys Môn yn Llangefni ugain mlynedd ers iddi gael ei sefydlu. Yn yr oriel a’r amgueddfa ranbarthol hon mae'n bosibl gweld arddangosfeydd a gweithiau o gasgliadau lleol a chenedlaethol. Adeiladwyd yr oriel i arddangos y casgliad mwyaf cyflawn o waith Charles Tunnicliffe, a ddiogelwyd i’r cyhoedd ychydig cyn iddo gael ei werthu mewn arwerthiant yn Llundain.

Am ba bynnag reswm, mae ein hynys wedi ysbrydoli dau o gewri byd celf yr 20fed ganrif, Charles Tunnicliffe a Syr Kyffin Williams. Rydym mor falch ohonynt fel ein bod wedi adeiladu dwy oriel wych i arddangos eu gwaith gorau.
Treuliodd Tunnicliffe 35 mlynedd ym Malltraeth yn Ynys Môn ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n cofnodi’n fanwl fywyd gwyllt yr ynys gyfan. Ym marn Syr Peter Scott ef oedd arlunydd bywyd gwyllt gorau’r 20fed ganrif. Ac os astudiwch chi ei lyfrau braslunio a’r darluniau mesuredig manwl, byddwch yn siŵr o gytuno.

Yn 2008, agorwyd Oriel Kyffin Williams er cof am un o arlunwyr mawr Cymru – oedd mor agos at galon pobl Môn.

Am nifer o flynyddoedd gellid gweld Syr Kyffin allan ym mhob tywydd, yn y cap fflat a’r gôt hir oedd mor nodweddiadol ohono, yn paentio ei hoff ynys. “Mae’r rhan fwyaf o arlunwyr tirluniau’n ymateb yn gryfach i’w gwlad eu hunain nag unrhyw wlad arall, ac rwy’n hapus i aros yng Nghymru a phaentio fy rhan arbennig o’r wlad,” meddai. “Ym Môn caf fy nenu gan y ffermydd gwyn a’r bythynnod tra bod y mynyddoedd gwych i’w gweld ar draws y Fenai.”

Gyda’i haelioni arferol rhoddodd 400 o’i weithiau gwreiddiol i Oriel Ynys Môn - o frasluniau i ddarluniau a phaentiadau olew mawr. Yn drist iawn, bu farw ddwy flynedd cyn i’r oriel a enwyd er cof amdano gael ei hagor yn 2008.

Dewisodd Kyffin 12 o’i ddyfrluniau i’w cyhoeddi fel cyfres gyfyngedig o 350 o brintiau, gyda phob un ohonynt wedi ei lofnodi gan yr arlunydd, i helpu i gefnogi Oriel Ynys Môn. 
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2010 Cyngor Sir Ynys Môn :