Yma ym Môn mae croeso i feicwyr. Rydym yn hoffi’r ffaith eu bod yn cadw’n ffyrdd yn dawel ac yn ddi-draffig a’r ffordd maen nhw’n dod yn rhan o’n cefn gwlad.
Ac mae’n ymddangos bod beicwyr yn ein hoffi ninnau. Dydyn nhw ddim yn gallu cadw draw. Dim ond naw
Llwybr Beicio Cenedlaethol sydd ym Mhrydain gyfan - mae dwy ohonynt yn croesi Ynys Môn.
Mae Llwybr Cenedlaethol 8 o Gaerdydd a Llwybr Cenedlaethol 5 o Reading yn mynd ar hyd ein lonydd ac yn gorffen yng Nghaergybi. Ac rydym wedi cynllunio
pedair cylchdaith ei hunain sy’n cysylltu â hwy.
Nid rhifau sydd arnynt, ond enwau. Nico, Gïach, Hebog a Thelor. Mae pob un wedi ei henwi ar ôl math o aderyn y byddech chi’n disgwyl ei weld ar eich taith trwy ein gwlyptiroedd ac yn ein gwrychoedd.
Rydym hefyd wedi treulio pum mlynedd a gwario £2 filiwn ar greu lôn syth
Lôn Las Cefni, sy’n cysylltu â’r ddwy ffordd genedlaethol. Mae’n ddi-draffig ac yn gymharol wastad yr holl ffordd, am 13 milltir, ac mae'n denu nifer o deuluoedd.
“Rydych chi’n gweld cymaint o fywyd gwyllt - hyrddyn llwyd yn bwydo yn yr afon, glas y dorlan ac elyrch yn hedfan,” meddai Richard Owen o Langefni. “Mae’n heddychlon braf. Does dim traffig a gallwch adael i’r plant fynd yn rhydd.”
Er bod rhwydwaith o lonydd beicio ar hyd yr ynys gyfan, roedd un darn o’r jig-so ar goll - arfordir y gogledd. A gan fod hon yn un o ardaloedd tawelaf a harddaf Ynys Môn, roedd hynny’n resyn.
Felly, rydym wedi creu cylchdaith newydd sbon 34 milltir. Dyma Lwybr 566 yn ôl y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ond mae arwyddocâd hanesyddol i’r enw yr ydym ni wedi ei rhoi arni, sef
Lôn Las Copr.