Dŵr, dŵr ym mhob man. Gan ei bod yn ynys gyda 125 milltir o forlin does dim prinder lleoedd ym Môn i fwynhau’r holl ddŵr sydd o’i chwmpas.
Mae pobl yn hwylfyrddio, syrffio barcud, caiacio môr, deifio, sgramblo arfordirol. Mae’r rhain oll yn helpu i wneud Ynys Môn yn un brif gyrchfannau’r DU ar gyfer chwaraeon dŵr. Yn wir, rydych yn siŵr o weld mwy o siwtiau gwlyb nag o gestyll tywod ar rai o’n traethau.
Lleoedd fel Rhosneigr, prif gyrchfan chwaraeon dŵr Ynys Môn. Traeth tywod hir gyda’r gwynt yn chwythu o’r gorllewin lle mae Dave “Bucky” Buckland yn cynnig paned o de gynnes a gair o gyngor o’i siop syrffio
Funsport. A’r cyn bencampwr Prydeinig Alex Tritten sy’n rhedeg
ysgol yn ogystal â’i siop goffi a’i crêperie.
Neu leoedd fel Ynys Gybi ar ben gorllewinol Ynys Môn. Yn ôl y selogion does unlle gwell drwy’r byd i gaiacio. Yn sicr dyna farn Nigel Dennis o
Sea Kayaking UK yng Nghaergybi.
Ac fe ddylai ef wybod, gan mai ef oedd y gŵr cyntaf i fynd o amgylch Prydain mewn caiac; mae hefyd wedi arwain teithiau i Ynys y Pasg, Antarctica a rownd yr Horn.
“Mae’r llanw’n llifo ar gyflymder o bedwar i chwe not o amgylch arfordir Môn, sy’n creu tonnau mawr mewn rhai ardaloedd”, meddai. “ Dyna’r amodau sydd eu hangen ar gaiacwyr i wella eu sgiliau, er y byddai’r cyhoedd yn meddwl eu bod yn mentro.”
Ond dydi llanw cryf Ynys Lawd ac Ynys Arw ddim yn apelio at bawb. I rai llai mentrus, nid yr adrenalin yw’r apêl ond yn hytrach y ffaith eu bod yn agos at natur ac ymhell o sŵn y byd.