Amgueddfa Morwrol Caergybi

Harbwr Caergybi
Byddech yn disgwyl fod gan Ynys Môn, ynys fôr deithio, amgueddfa forwrol. A byddech yn gywir.
Caergybi yw eich cyrchfan, cartref miloedd o chwedlau llongwyr, cyswllt fferi brysur eithriadol gydag Iwerddon, gorsaf fad achub, ac mae gan bron bawb yn y dref ryw gysylltiad â’r môr.
Holwch y deifwyr lleol a soniant wrthych am y cyfoeth o fywyd morol sydd ar gael o amgylch yr ynys. Mae hi’n un o hoff gyrchfannau deifio’r DU. Fe ddywedant wrthych am longddrylliadau hudol, bellach yn cynnal y bywyd morol hwnnw. Yn anffodus trengodd llawer person ar arfordir Gogledd Cymru, ac yn yr amgueddfa forwrol byddwch yn cael eich cyflwyno i chwedlau’r rhai a oroesodd a’r rhai na wnaeth.
Bydd nifer o’r rhai a Achubwyd yn ddyledus am eu bywyd i ddewrion y Bad Achub. Unwaith roedd yr amgueddfa forwrol yn llety i’r orsaf fad achub hynaf yng Nghymru, a sefydlwyd gan y mudiad annibynnol - Cymdeithas Achub bywyd Ynys Môn. O fewn yr amgueddfa mae casgliad gwych o fodelau o fadau achub Caergybi o 1857 - 1928, a byddwch yn synnu sut yn y byd y bu iddynt ymdopi â Môr Iwerddon.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Harbwr Caergybi hefyd yn darged i Luftwaffe’r Almaenwyr. Fel yr anelai awyrennau bomio’r gelyn am Lerpwl a Swydd Gaerhirfryn, byddai rhai o’r awyrennau ar eu ffordd adref yn targedu llongau’r Llynges Brydeinig a Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd oedd yn llochesu yn Ynys Môn. Mae arddangosfa o Gyrch Awyr Amser Rhyfel o fewn yr amgueddfa.