Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Plas Newydd

Glan y Fenai

Plas Newydd yw cartref traddodiadol Ardalydd Môn ac fe'i hadeiladwyd yn y 18fed ganrif gan y pensaer nodedig James Wyatt. Mae'r plasty ysblennydd ar lan y Fenai yn wynebu gwychder golygfeydd Eryri.

Yn yr 1930au, comisiynodd chweched Ardalydd Môn yr artist Rex Whistler i baentio'r hyn a ddaeth y darlun mwyaf iddo ei greu yn yr ystafell fwyta. Gellir gweld mwy o'i waith yn yr arddangosfa barhaol sy'n deyrnged iddo.

Ardalydd cyntaf Môn oedd yng ngofal y marchoglu yn ystod Brwydr Waterloo ym 1815. Yn yr Amgueddfa Filwrol cewch weld nifer o greiriau hynod, gan gynnwys y goes bren gymalog gyntaf i'w chynhyrchu erioed.

Mae gardd Plas Newydd yn rhyfeddod i'w weld ym mhob tymor. Yn y gwanwyn gallwch grwydro trwy harddwch 5 erw yr Ardd Rhododendron wedi dilyn llwybr coediog hyd glannau'r Fenai. Yn yr haf, mae'r ardd deras yn fôr o liw. Daw'r hydref a'i sbloets o liwiau a môr o blanhigion tri lliw ar ddeg.

Mae ymwelwyr yn mwynhau:

  • gerddi helaeth
  • llwybrau trwy'r coed ac ar lan y môr
  • parc antur a thy yn y coed
  • ystafell de drwyddedig
  • siop anrhegion
  • teithiau tywys drwy drefnu ymlaen llaw
  • teithiau cwch
  • digwyddiadau

manylion cyswllt

Llanfairpwllgwyngyll
LL61 6DQ
 
Ffon: +44 (0)1248 714795
Facs: +44 (0)1248 713673
 
 

Tŷ 12 - 5pm (Sad - Mercher)
Gardd 11am - 5.30pm (Sad - Mercher)
Siop coffi 11am - 5pm (Sad - Mercher)
Agored Dydd Gwener y Groglith. *Siop Coffi a Siop Lyfrau fel y tŷ ond yn agored am 11.30am. Gardd Rhododendron yn agor yn Ebrill Mehefin, 11am –5.30pm
Mynediad diwethaf am 4.30pm 

gwybodaeth ddefnyddiol

Mynediad "Gift Aid"(prisiau mynediad safonol mewn cronfachau): £8.25 (£7.50), plentyn £4.25 (£3.75), teulu £20.75 (£18.75). Grwpiau (£6.50). Gardd yn unig: £6.25 (£5.50), plentyn £3.25 (£2.75)
 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth