Swtan

Amgueddfa Werin Swtan, Porth Swtan
Erbyn hyn, wedi ei adfer gan Gyfeillion Swtan, mae’n amgenach lawer na rhyw amgueddfa werin fechan, hen ffasiwn. Mae’n cynrychioli ffordd o fyw caled gwerinwyr ym Môn a hynny ddim ond can mlynedd yn ôl.
Mae cefnogwyr a chyfeillion prosiect Swtan, gyda chymorth cronfa Ewropeaidd, wrth droi’r cloc yn ôl i 1910 gyda chelfi, ffabrigau, llestri, padelli a darluniau wedi sicrhau fod sylw i fanylion wedi bod yn flaenoriaeth. Felly, pan gyrhaeddwch yno a mynd i mewn, allwch chi ddim ond dychmygu sut y byddai teulu bach yn gallu goroesi heb ddŵr, tŷ bach na llofftydd ac yn byw ar friwsion prin ychydig anifeiliaid, cae bychan a gardd berlysiau. Roeddynt yn gwneud, atgyweirio, golchi, coginio a magu anifeiliaid - y cwbl gyda llaw.